John ArthurHUGHESHUGHES - JOHN ARTHUR, Gorffennaf 18, 2017. Yn dawel, wedi brwydr ddewr, yn Ysbyty Gwynedd Bangor o Prenteg, Deiniolen yn 76 mlwydd oed. Priod addfwyn Eileen; tad arbennig Arwel a Dylan a'u cymheiriaid Vicki a Jennie; taid balch Leon, Hannah a Sam; brawd yng nghyfraith ac ewythr hoffus. Colled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Crist Llandinorwig, Deiniolen ddydd Sadwrn, Gorffennaf 22, 2017 am 11.00 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent yr Eglwys. Blodau'r teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig er cof tuag at Elusennau Lleol. Ymholiadau pellach i Meinir o Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ff?n 01286 871833.
Keep me informed of updates